Amdan

| Graddiais o Goleg Celf Caeredin gyda BA (Anrh) mewn Dylunio a'r Celfyddydau Cymhwysol, gan arbenigo mewn gwydr. Cwblhais fy MA mewn Gwydr ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe gyda Rhagoriaeth yn 2011. Defnyddiaf ddulliau gwahanol wrth ymateb i ofod safle-benodol; gwledig, trefol neu wedi'i greu yn bwrpasol, y tu mewn neu allan, i greu gosodweithiau a gweithiau cerfluniol.

Gan ddefnyddio lluniadu, ffotograffiaeth a thechnegau gwydr gwahanol mae fy mhroses artistig yn ddatblygiad o arsylwadau a phrofiadau personol. Byddaf yn eu defnyddio fel sail i ddatblygu cysyniad a'i droi mewn i gorff o waith.

Daw gwydr yn fyw ym mhresenoldeb goleuni ac mae fy niddordeb i yn tynnu ar briodweddau'r deunydd a'i allu i ddal, trosglwyddo ac yn adlewyrchu golau. Naill ai drwy gymhwyso dulliau technegol a thechnegau amrywiol, addasu a gweithio yr wyneb i dynnu sylw a dadlennu rhinweddau arwyneb, neu wrth fanteisio'n syml a'r ei ansoddau adlewyrchol a thryloyw pur fel deunydd crai.

Pa bynnag ymdriniaeth, proses neu ddull ddefnyddir, rwy'n archwilio ac yn portreadu llinyn cyson o'r un themâu; golau a chysgod, gwyn a du, y gweladwy a'r anweledig, absenoldeb a phresenoldeb. Mae tynnu sylw at allu naturiol gwydr i drosgwyddo, adlewyrchu ac amsugno golau, rhith, canfyddiad a graddfa hefyd yn ffactorau pwysif o fewn fy ngwaith, yn mynnu i'r gwyliwr i edrcyh eto, cwestiynu beth gaiff ei weld ac i ddirnad beth gaiff ei bortreadu.