Ymdeimlad o Le

Yn wreiddiol, darn o waith gosod a graewyd yn arbennig ar gyfer yr Hen Dy Halen, Port Eynon, yn Ne Gwyr, sydd yn gwynebu'r mor, adeiladwyd yn yr 16eg ganrif, a bun cynhychu ac yn gwerthu halen. Yn ol yr hanes, mae’n debyg roedd hyn hefyd yn esgys ar gyfer gorchuddio'r ffaith ei fod yn ffau ar gyfer y smyglwyr, ac yn rhannol hyn yw’r sail ar ysbrydoliaeth ar gyfer y gwaith. Heddiw hen adfail sydd i’w weld yno, safle wedi ei adael i erydu a dilyn ei lwybr naturiol, sydd yn codi chwilfrydedd, yn atgof o amser, manau a phobl a fu.

Yn wreiddiol adnabyddir llenni net fel llenni gwydr, a gynlluniwyd i rwystro'r olygfa oddi mewn, ond parhau i ganiatau i’r golau dreulio trywyddynt. Mae'r tyllau yn y gwydr wedi ei creu drwy chwistrellu tywod o dan wasgedd uchel yn rhoi argraff bregys a'r teimlad o erydiad, sydd hefyd yn adlewyrchu ar yr adeilad, y safle a’i amgylchfyd.

Mae'r darn yn mesur 85cm x 65cm x .2cm ac hefyd wedi ei arddangos mewn gofod oriel.