Uniad

Cyfres o gerfluniau yn archwilio perthnasoedd oddi mewn i'r amgylchedd naturiol, ble mae popeth yn gyd-ddibynnol, mae teitlau'r y darnau yn adlewyrchu ar y pwnc; cynhaliad, pâr, un, uniad, uned. Mae peth o'r gwaith yn cynnwys dau ddarn gwahanol o wydr sydd yn gwbl ail-gysylltu i greu un darn yn ei gyfanrwydd (delwedd 1-4 ). Crëwyd y gwaith drwy dechneg cwyr coll, yna eu gweithio gyda thechnegau oer cymhwysol i greu arwynebedd gwahanol i bwysleisio ansawdd a gwead y deunydd.