Gwydr, Golau a Gofod

Cyfres o bedwar tŷ gwydr yn archwilio cysgod a'r golau a gipwyd ynddynt . Yn seiliedig ar siâp geometrig syml ac yn symbol cyffredinol, mae'r gwaith yn archwilio ei ystyron amrywiol o gysgod, cysegr, hanes, atgofion a breuddwydion. Mae'r tai wedi eu gwneud gan ddefnyddio technegau cymhwsol er mwyn gyflawni gwahanol arwynebau a thynnu sylw at amryw o nodweddion y deunydd. Maent hefyd yn archwilio graddfa, rhith a chanfyddiad drwy eu cofnod mewn gwahanol sefyllfaoedd ac amgylchedd. Meinitau amrywiol rhwng 5cm x 3cm x 2cm.

Llyfr Gwydr, Golau a Gofod